Adroddiad drafft y Pwyllgor Offerynnau Statudol

CSI1

 

Teitl: Rheoliadau’r Diwydiant Dŵr (Cynlluniau ar gyfer Mabwysiadu Carthffosydd Preifat) 2011

 

Gweithdrefn: Cadarnhaol

 

Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu bod yr Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidogion Cymru yn gwneud cynlluniau i ymgymerwyr carthffosiaeth yng Nghymru a Lloegr fabwysiadu carthffosydd preifat a draeniau ochrol preifat o dan adran 102 o Ddeddf Diwydiant Dŵr 1991 (“y Ddeddf”).

 

Materion technegol: craffu

O dan Reol Sefydlog 21.2, gwahoddir y Cynulliad i roi sylw arbennig i’r offeryn a ganlyn:-

 

1.   Ni wnaethpwyd y Rheoliadau hyn yn ddwyieithog.

 

[Rheol Sefydlog 21.2(ix): nad yw wedi’i wneud neu i’w wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg].

 

Rhinweddau: craffu

O dan Reol Sefydlog 21.3, gwahoddir y Cynulliad i roi sylw arbennig i’r offeryn a ganlyn:-

 

1.   Bydd y Rheoliadau hyn yn effeithio’n uniongyrchol ar gyfran helaeth o’r bobl sy’n byw yng Nghymru. Mae Deddf y Diwydiant Dŵr 1991 yn rhoi dyletswydd statudol ar ymgymerwyr carthffosiaeth i ddarparu, cynnal ac ymestyn system o garthffosydd cyhoeddus i sicrhau bod yr ardal yn cael ei draenio’n effeithiol, a bod hynny’n parhau i ddigwydd. Er bod  Deddf 1991 yn darparu ar gyfer mabwysiadu gwirfoddol fel rhan o’r system garthffosiaeth gyhoeddus o ran cysylltu carthffosydd a draeniau ochrol â’r system honno, nid yw hyn yn ofynnol, felly mae system helaeth o garthffosydd preifat wedi datblygu ers 1937. Amcangyfrifir bod 50 y cant o eiddo yng Nghymru a Lloegr wedi’i gysylltu â charthffosydd preifat mewn un ffordd neu’r llall. O ganlyniad, mae’r cyfrifoldeb am y carthffosydd hyn yn cael ei rannu gan berchenogion yr eiddo y mae’r carthffosydd hynny’n eu gwasanaethu. Bydd y Rheoliadau hyn yn trosglwyddo’r cyfrifoldeb am gynnal y carthffosydd a draeniau ochrol i’r cwmnïau dŵr a charthffosiaeth. Bydd hyn yn cynnwys carthffosydd a draeniau ochrol sy’n draenio adeiladau preswyl a masnachol.

 

2.   Mae’r Rheoliadau hyn yn cynnwys cymal machlud. Mae cymal machlud yn darparu bod effaith y Ddeddf yn darfod ar ôl dyddiad penodol. Mae Rheoliad 1(2) yn datgan “these regulations… cease to have effect at the end of 30th June 2018.” Mae’r memorandwm esboniadol yn esbonio pam mae cymal machlud yn angenrheidiol yn yr achos hwn. Mae’n datgan:

 

“the regulations that implement the transfer of private sewers will affect the transfer by requiring water and sewerage companies to use their existing powers under the Water Industry Act 1991 to declare sewerage assets to be vested in them as “public” sewerage assets. They will be required to make declarations in respect of private sewers, laterals and associated pumping stations which are connected to the public sewerage system on a date specified in the regulations. This exercise is a single operation such that, once over the transitional period specified in the regulations they will have no on-going effect.”

 

Mae’r memorandwm esboniadol yn ddryslyd oherwydd ei fod yn datgan: “no sunset clause is therefore proposed for these regulations.” Mae hyn yn anghywir ac mae cyfreithwyr y Llywodraeth wedi nodi’r gwall.

 

[Rheol Sefydlog 21.3(ii): ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad].

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Mis Mai 2011

 

Mae’r Llywodraeth wedi ymateb fel a ganlyn:

 

Pwyntiau Technegol:

 

Rheoliadau’r Diwydiant Dŵr (Cynlluniau ar gyfer Mabwysiadu Carthffosydd Preifat) 2011

 

Mae’r rheoliadau cyfansawdd hyn yn gymwys i Gymru a Lloegr ac yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Senedd y DU yn unol â gofynion statudol.  Bernir felly nad yw’n rhesymol ymarferol i’r rheoliadau hyn gael eu gosod ar ffurf drafft, na’u gwneud, yn ddwyieithog.

 

Pwyntiau ynglŷn â’r Rhinweddau:

 

Rheoliadau’r Diwydiant Dŵr (Cynlluniau i Fabwysiadu Carthffosydd Preifat) 2011

 

Rwy’n ddiolchgar am adroddiad drafft y Pwyllgor. Fel y mae’r adroddiad drafft yn ei nodi, mae’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn cyfeiliorni wrth ddatgan nad oes cymal machlud yn y Rheoliadau.  Er hynny, mae’r Memorandwm Esboniadol yn datgan yn gywir bod cymal machlud yn y Rheoliadau.  Er fy mod yn gresynu at y camgymeriad hwn, nid wyf yn credu y byddai unrhyw gamau i’w gywiro, mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn, yn briodol.